GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd am 08.30 ar 15 Hydref 2013 yn Nhŷ Hywel
YN BRESENNOL:
Janet Finch-Saunders AC (JFS) |
Cadeirydd |
Elin Jones AC (EJ) |
Aelod o'r Grŵp Trawsbleidiol |
Rhodri Glyn Thomas AC (RGT) |
|
Eluned Parrott AC (EP) |
|
Russell George AC (RG) |
|
Simon Stranks (SS) |
Janet Finch-Saunders AC |
Mair Roberts (MRR) |
Ysgrifennydd |
Shane Brennan (SB) |
ACS |
Laura Doel (LD) |
Alun Davies AC |
Phil Bale (PB) |
Julie Morgan AC |
Alexander Phillips (AP) |
William Powell AC |
Mark Roberts (MR) |
The Co-operative Group |
David Yates (DY) |
Blakemore |
Janet Read (JR) |
Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Manwerthu |
Sophie Traherne (ST) |
Swyddfa Grŵp Ceidwadol |
1.YMDDIHEURIADAU
Keith Davies AC
2.CYFLWYNIAD
Croesawodd JFS bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol ac amlinellodd ei bwysigrwydd yn codi materion polisi a allai gael effaith ar siopau bach a dylanwadu arnynt, ac amlygodd y sector fel elfen allweddol i economi Cymru. Rhoddodd JFS hefyd amlinelliad o'i gyrfa hir yn y sector manwerthu annibynnol.
3.CYFLWYNIAD GAN SHANE BRENNAN, ACS
Rhoddodd SB o'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra gyflwyniad ar y cyfraniad a wneir gan y sector siopau cyfleustra i economi Cymru, a oedd yn cynnwys ffigurau ar nifer y siopau a swyddi yn y sector yng Nghymru. Eglurodd hefyd gydweithrediad ACS gyda'r Cydffederasiwn Manwerthwyr Annibynnol, yr oedd yn gobeithio y bydd hefyd yn gallu cymryd rhan yn nweithgareddau'r Grŵp Trawsbleidiol.
Dilynwyd cyflwyniad SB gan gynnig o ran pa bynciau polisi y dylai'r Grŵp eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gynnwys: costau eiddo, parcio a materion cynllunio.
Y Gymraeg
Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd JFS i SB am nifer y perchenogion siopau cyfleustra a'r gweithwyr sy'n siarad Cymraeg. Atebodd SB fod 27% o berchenogion siopau cyfleustra yng Nghymru yn siarad Cymraeg. Rhoddodd MR wybod i'r Grŵp Trawsbleidiol am waith y Co-Operative Group gyda Chomisiwn y Gymraeg i ddarparu pecyn cymorth iaith Gymraeg i gyflogeion.
Peiriannau arian parod
Mynegodd RGT bryderon ynghylch peiriannau ATM sy'n codi ar gwsmeriaid, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Sicrhaodd MR a SB y Grŵp nad yw manwerthwyr yn gyffredinol yn dymuno codi ar gwsmeriaid ar gyfer y defnydd o beiriannau ATM.
Parcio
Trafododd y Grŵp y manteision a'r anfanteision o orfodaeth a darpariaeth parcio. Amlygodd EJ lwyddiant cynllun gorfodaeth parcio yn Aberystwyth a rhybuddiodd efallai nad darpariaeth parcio 'am ddim i bawb' yw, o reidrwydd, y ffordd orau i gwsmeriaid allu cael mynediad at siopau lleol. Siaradodd SB am waith y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd mewn perthynas â pharcio yng nghanol trefi, ac awgrymodd y gallai'r sefydliad hwn gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol.
Cynllunio
Mynegodd LD ei phryderon ynghylch archfarchnadoedd sy'n cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr yn ymyl y dref neu y tu allan i'r dref ar y sail y bydd cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu ond nad oes unrhyw fwriad o greu siop ar y safle hwnnw, gan nodi enghreifftiau o Flaenau Gwent.
Yn dilyn y drafodaeth, CYTUNWYD y byddai ACS yn dosbarthu cyflwyniad SB i'r Grŵp Trawsbleidiol.
4.SGILIAU
Amlinellodd JR ymgyrch 'Stryd Fawr Ffyniannus' yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar y cyd â Llywodraeth Cymru i annog manwerthwyr i wella eu sgiliau. Eglurodd ei bod yn anodd annog manwerthwyr i gymryd rhan yn y cynllun.
Gofynnodd EP i JR am ei barn ar beth oedd yn rhwystro manwerthwyr rhag manteisio ar y hyfforddiant a ddarperir. Dywedodd JR fod y rhesymau'n cynnwys diffyg amser, dim digon o staff yn y siop, a bod yn anghyfarwydd â gwella sgiliau. Pwysleisiodd JR fod manwerthwyr yn fwy tebygol o ymateb i dystiolaeth gan fanwerthwyr eraill o fanteision y cynllun nag i'r Academi.
6. BLAENORIAETHAU AR GYFER Y GRŴP
Cafodd pynciau cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y dyfodol eu trafod a'u CYTUNO. Roedd y pynciau hyn yn cynnwys:
· Enghreifftiau o arfer gorau gan fanwerthwyr
· Cynllunio
· Sgiliau
· Dydd Sadwrn Busnesau Bach